Mae angen i ddarparwyr fod â gweithdrefnau mewnol ar waith i ddelio â’r gwahanol bethau a all ddigwydd yn ystod astudiaethau myfyriwr. Nid yw hon yn rhestr gyflawn, ond gall y gweithdrefnau hyn gynnwys prosesau sy’n gysylltiedig â’r canlynol:
- cwynion gan fyfyrwyr
- apeliadau academaidd
- materion disgyblu academaidd ac anacademaidd
- addasrwydd i ymarfer
- addasrwydd ar gyfer astudio
- gweithredu’n groes i godau ymddygiad a rheoliadau
Llythyrau Cwblhau Gweithdrefnau
Fel arfer, rydym yn disgwyl i fyfyrwyr gwblhau gweithdrefnau mewnol eu darparydd cyn dod â chŵyn atom ni. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r darparydd ymchwilio i’r mater, a gwneud pethau’n iawn, lle bo hynny’n briodol.
Pan fydd myfyriwr wedi cyrraedd diwedd gweithdrefnau’r darparydd ac nad oes unrhyw gamau pellach y gallant eu cymryd yn fewnol, dylai’r darparydd gyhoeddi Llythyr Cwblhau Gweithdrefnau (LlCG) yn unol â’r canllawiau rydyn ni wedi’u cyhoeddi.
Mae ein nodyn arweiniol ar gyfer y Llythyr Cwblhau Gweithdrefnau yn egluro’n fanylach pryd mae angen i ddarparwyr gyhoeddi Llythyrau Cwblhau Gweithdrefnau a pha wybodaeth y dylid ei chynnwys.
Mewn amgylchiadau eithriadol mae’n bosibl y byddwn yn penderfynu adolygu cwyn hyd yn oed os nad yw’r myfyriwr wedi cwblhau gweithdrefnau mewnol y darparydd neu os nad oes ganddo Lythyr Cwblhau Gweithdrefnau.
Cyfeirio myfyrwyr at ein Cynllun
Mae’n bwysig bod myfyrwyr yn gwybod ei bod yn bosibl y gallwn adolygu eu cwyn yn annibynnol os ydyn nhw’n anhapus â chanlyniad gweithdrefnau’r darparydd. Yn ogystal â sicrhau eu bod yn rhoi Llythyr Cwblhau Gweithdrefnau i fyfyrwyr pan nad oes unrhyw gamau pellach y gallant eu cymryd yn fewnol, mae angen i ddarparwyr hefyd sicrhau bod eu rheoliadau yn cynnwys gwybodaeth glir am ein Cynllun.
- Mae yna ganllawiau ar ein gwefan i helpu darparwyr i wneud hyn.
Fframwaith Arfer Da
Mae ein Fframwaith Arfer Da (FfAD) yn rhoi arweiniad ar gyfer trin cwynion ac apeliadau academaidd mewn addysg uwch yng Nghymru a Lloegr; datblygwyd y fframwaith mewn ymgynghoriad â darparwyr, undebau myfyrwyr, sefydliadau addysg uwch a mudiadau sy’n ymdrin â chwynion. Mae i’r FFAD wyth egwyddor graidd ac mae’n cynnwys canllawiau arfer da i helpu darparwyr â chynllunio a gweithredu gweithdrefnau mewnol. Dylai gweithdrefnau darparydd fod yn gyson â’r canllawiau a’r egwyddorion a nodir yn y FfAD. Mae gwahanol adrannau’r FfAD yn llywio’r ffordd yr ydym yn adolygu cwynion sy’n ymwneud â’r gweithdrefnau hynny.
Gallwch fwrw golwg ar y gwahanol adrannau o’n Fframwaith Arfer Da. A yw gweithdrefnau eich darparydd yn gyson â’r canllawiau?
8 Egwyddor y Fframwaith Arfer Da
- Hygyrchedd
- Eglurder
- Cymesuredd
- Prydlondeb
- Tegwch
- Annibyniaeth
- Cyfrinachedd
- Gwella profiad myfyrwyr
Cyflwyno cyfleoedd dysgu gydag eraill
Bydd rhai aelodau’n cyflwyno cyfleoedd dysgu gydag eraill. Mae’n bosibl y bydd eich darparydd yn cyflwyno cyrsiau sy’n arwain at ddyfarniad gan ddarparydd arall, neu gall fod yn bartner dyfarnu neu ddilysu i ddarparydd arall. Mae hefyd yn bosibl bod y darparydd partner wedi’i leoli yng Nghymru neu Loegr, neu gall fod wedi’i leoli dramor.
Dylai darparwyr sy’n aelodau a’u partneriaid cydweithredol weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cyfeirio at ein Cynllun. Dylai’r gweithdrefnau nodi’n glir a all myfyriwr fynd â’i gŵyn neu apêl at bartner dyfarnu, yn ogystal â phryd a sut y gall wneud hynny.
Mae’r adran ‘Cyflwyno cyfleoedd dysgu gydag eraill’ o’r FfAD yn cynnwys canllawiau arfer da gweithredol ar gyfer delio â chwynion ac apeliadau wrth weithio gydag eraill. Mae ein Canllawiau ar gyfer Llythyr Cwblhau Gweithdrefnau hefyd yn cynnwys gwybodaeth i ddarparwyr ynghylch cyhoeddi Llythyrau CG pan fyddant yn cyflwyno cyfleoedd dysgu gydag eraill.
Darllenwch ein hadran Cyflwyno cyfleoedd dysgu gydag eraill.