Sut rydyn ni’n cadw mewn cysylltiad
Gofynnwn i bob darparydd enwebu Pwynt Cyswllt (PC) i ni ddelio â nhw. Prif rôl PC yw cydlynu â ni ynghylch cwynion unigol ac ymateb i’n ceisiadau am wybodaeth. Rydym yn argymell bod darparwyr hefyd yn enwebu Cynrychiolydd PC a fydd yn gallu ein helpu os nad yw’r PC ar gael am unrhyw reswm.
Os yw’ch darparydd yn aelod newydd o’n Cynllun, rhowch wybod i ni pwy fydd yn gweithredu fel ein PC a’r Cynrychiolydd PC cyn gynted â phosibl trwy anfon e-bost atom yn:
Rydym yn creu cyfrif MyOIA ar gyfer pob darparydd sy’n aelod. Pan fyddwn yn gwybod pwy fydd yn gweithredu fel ein PC, byddwn yn anfon manylion mewngofnodi atynt ar gyfer cyfrif y darparydd. Gall darparwyr ddefnyddio MyOIA i olrhain cwynion, rheoli manylion cyswllt ac ychwanegu defnyddwyr eraill. Gall y rhai sydd eisoes yn aelodau o’n Cynllun ddefnyddio MyOIA i roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i’n PC neu Gynrychiolydd PC.
Dysgwch fwy am MyOIA.
Mae ein e-gylchlythyrau yn cynnwys gwybodaeth a diweddariadau pwysig, felly mae’n bwysig bod PC a Chynrychiolwyr PC yn eu darllen ac yn sicrhau bod eu gosodiadau e-bost yn caniatáu iddynt ddod drwodd i’w mewnflwch. Rydym yn anfon yr e-gylchlythyrau at PC a Chynrychiolwyr PC yn awtomatig, ond gall unrhyw staff eraill sydd â diddordeb mewn eu derbyn danysgrifio hefyd trwy ein gwefan.
Gallwch fwrw golwg ar ein e-gylchlythyr diweddaraf a thanysgrifio.