CAEL MYNEDIAD I SDA: PECYN CYMORTH AR GYFER CYRFF CYNRYCHIOLI MYFYRWYR

Bwriad yr adnoddau yn y pecyn cymorth hwn yw eich helpu chi a'ch Undeb, Cymdeithas neu Urdd Myfyrwyr i egluro i fyfyrwyr pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud. Mae'r adnoddau'n cynnwys offer y gellir eu lawrlwytho, gweminarau wedi'u recordio ymlaen llaw, dolenni cyfleus a chanllawiau. Gobeithiwn y byddwch yn dod o hyd i rywfaint o ddeunydd defnyddiol i'w gynnwys yn eich gwybodaeth groeso ar gyfer swyddogion sabothol a staff cynghori newydd, ynghyd â gwybodaeth i'w rhannu â myfyrwyr sydd angen help gyda chŵyn neu apêl.

Pecyn Cymorth

Mewnosodiad Sefydlu - Staff Cynghori Newydd [PDF]

Adnodd rhagarweiniol ar gyfer staff newydd sy'n ymuno â'ch tîm cynghori fel rhan o'u rhaglen sefydlu. Mae'n rhoi trosolwg byr o bwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud, yn ogystal â nodi rhywfaint o wybodaeth allweddol ar sut y gall y myfyrwyr y byddan nhw'n rhoi cymorth iddynt yn gallu cael mynediad i'n Cynllun.

Adnoddau Sefydlu/Trosglwyddo - Canllaw Cyflym i SDA ar gyfer Swyddogion Sabothol [PDF]

Gellir rhannu'r canllawiau defnyddiol hyn gyda swyddogion newydd pan fyddant yn cael eu sefydlu neu wrth drosglwyddo’r awenau. Mae’n rhoi trosolwg byr o bwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud, yn ogystal â nodi rhywfaint o wybodaeth allweddol ar sut gall myfyrwyr gael mynediad i'n Cynllun.

SDA - Canllaw Cyflym ar gyfer Myfyrwyr [PDF]

Mae'n bwysig bod myfyrwyr yn gallu cyrchu'r Cynllun pan fydd angen. Mae'r daflen hon yn esbonio pwy ydyn ni a’r hyn rydyn ni'n ei wneud; gellir ei hargraffu a'i gadael mewn lleoedd ar gyfer myfyrwyr, fel derbynfa'r gwasanaeth cynghori neu ardaloedd eistedd.

Cyfeirio Myfyrwyr at ein Cynllun: offer y gellir eu lawrlwytho

Yma fe welwch destun defnyddiol o’n gwefan, graffeg cyfryngau cymdeithasol, delweddau digi-sgreen, ein logo a mwy, i'ch helpu chi i ddweud wrth fyfyrwyr am bwy ydyn ni, beth rydyn ni'n ei wneud; hefyd sut a phryd i gael mynediad i'r Cynllun.

Siart-llif proses SDA [PDF]

Mae ein siart-llif yn darparu trosolwg defnyddiol o'n proses adolygu. Nid yw pob cwyn yn dilyn yr un llwybr, a gall myfyrwyr a chynrychiolwyr ddefnyddio ein teclyn olrhain achos yn MyOIA i weld sut mae eu hachos yn dod yn ei flaen.

Pethau i'w hystyried wrth gynrychioli myfyriwr [PDF]

Casgliad o wybodaeth ddefnyddiol, awgrymiadau a hintiau handi i'w cadw mewn cof pan fyddwch chi’n mynd ati i gynrychioli myfyriwr trwy broses SDA.

Crynodebau achos

Gallwch weld enghreifftiau o achosion rydyn ni'n eu derbyn a sut rydyn ni'n eu datrys. Mae'r rhain yn cynnwys ein hachosion er budd y cyhoedd a chrynodebau o achosion.

Nodiadau briffio

Gweler ein nodiadau briffio diweddaraf ar bynciau sydd o ddiddordeb cyfredol.

Canllaw ar gyfer Llythyrau Cwblhau Gweithdrefnau

Ein canllaw ar gyfer Lythyrau Cwblhau Gweithdrefnau (LlCG).

Ein Rheolau

Mae ein Rheolau yn disgrifio sut mae ein Cynllun yn gweithio, pwy all gwyno, yr hyn y gallwn ac na allwn edrych arno, sut rydym yn adolygu cwynion, a beth ddylai darparwyr addysg uwch ei wneud.

Canllawiau i’r Rheolau

Mae'r Canllawiau hyn yn egluro beth yw ystyr rhai o'r termau a ddefnyddiwn yn ein Rheolau a sut rydym yn gweithredu’r Rheolau hynny.

Fideos


CYSYLLTU Â NI

Cysylltwch â Barry, ein Swyddog Cydlynu â Myfyrwyr

Os ydych chi am siarad â ni am eich corff cynrychioli myfyrwyr neu os ydych chi am wybod mwy, cysylltwch â Barry McHale ar barry.mchale@oiahe.org.uk.

Subscribe Tanysgrifiwch i’n e-gylchlythyr

Mae ein e-gylchlythyrau yn ffordd dda o gadw’n gyfoes â’n newyddion a'n gwybodaeth ddiweddaraf. Gallwch fwrw golwg ar ein e-gylchlythyrau diweddar.