Gellir ychwanegu'r wybodaeth hon at bob cyngor a chanllaw
Mae o gymorth os gall myfyrwyr gyrchu gwybodaeth am ein Cynllun ar eich gwefan. Gallwch chi addasu'r geiriad isod i weddu i dudalennau cynghori eich undeb, urdd neu gymdeithas myfyrwyr. Bydd y wybodaeth hon yn helpu myfyrwyr i ddeall mwy ynglŷn â phwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud, a beth yw eu hopsiynau os nad yw eu cwyn neu apêl wedi cael ei datrys gan eu darparydd. Gallwch hefyd ychwanegu gwybodaeth am eich gwasanaeth eich hun ac a all myfyrwyr gael gafael ar arweiniad, cymorth neu gynrychiolaeth trwy'r prosesau mewnol a/neu SDA.
"Mae Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol dros Addysg Uwch (SDA) yn cynnal cynllun, annibynnol a diduedd am ddim i adolygu cwynion gan fyfyrwyr. Mae [enw'r darparydd] yn aelod o'r Cynllun ac os ydych chi'n anhapus â'i benderfyniad terfynol ynghylch eich [cwyn / apêl / achos disgyblu a.y.b.], mae’n bosibl y gallwch gwyno i SDA.
Fel rheol mae'n rhaid i chi fod wedi cwblhau [y weithdrefn hon / enw'r weithdrefn] cyn i chi gwyno i SDA. Bydd [enw'r darparydd] yn anfon llythyr atoch a elwir yn “Llythyr Cwblhau Gweithdrefnau” (llythyr CG) pan fyddwch wedi cyrraedd diwedd y prosesau mewnol perthnasol ac nad oes unrhyw gamau pellach y gallwch chi eu cymryd yn fewnol. Bydd gennych chi 12 mis i gwyno i SDA, fel arfer o'r dyddiad y cyhoeddwyd y Llythyr CG. Mae hwn yn derfyn amser llym ac mae'n werth cofio po hiraf y byddwch chi'n aros i gwyno i SDA, y gall fod yn anoddach gwneud pethau’n iawn.
Gallwch ganfod rhagor o wybodaeth am ddod â chwyn at SDA, yr hyn y gallwn ac na allwn edrych arno a’r hyn sydd o fewn ein pŵer i wneud pethau’n iawn yn www.oiahe.org.uk neu trwy gysylltu [â gwasanaeth cynghori eich undeb, cymdeithas neu urdd myfyrwyr]."
Cysylltwch â SDA:
- Ffoniwch: 0118 959 9813
- E-bost: enquiries@oiahe.org.uk
- Gwefan: www.oiahe.org.uk
Gellir ychwanegu'r wybodaeth hon at yr holl gyngor ac arweiniad sy'n ymwneud ag unrhyw brosesau mewnol lle mae darparydd yn cwblhau llythyr Cwblhau Gweithdrefnau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
- cwynion gan fyfyrwyr
- apeliadau academaidd
- materion disgyblu academaidd ac anacademaidd
- addasrwydd i ymarfer
- addasrwydd i astudio
- bwlio ac aflonyddu
- gweithredu’n groes i godau ymddygiad a rheoliadau eraill
POSTERI | YDYCH CHI WEDI CLYWED AM SDA?

Gall CCM lawrlwytho ac argraffu'r poster hwn i'w arddangos mewn ardaloedd myfyrwyr, fel y ganolfan gynghori, caffis, cynteddau, derbynfeydd, hysbysfyrddau, pwyntiau dŵr neu ystafelloedd ymgynghori; mae unrhyw le y bydd eich myfyrwyr yn ei weld yn iawn gyda ni!
GRAFFEG AR GYFER CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Ar gyfer rhannu gwybodaeth amdanom ni trwy eich proffil Facebook, Twitter, Snapchat, Instagram a chyfryngau cymdeithasol eraill.
GRAFFEG AR GYFER SGRIN DDIGIDOL

Ar gyfer eu rhannu ar eich teledu neu sgriniau digidol ar sawl fformat.
Logo SDA

Gallwch lawrlwytho a defnyddio logo SDA ar eich gwefan i gysylltu â'n Hyb Myfyrwyr: https://www.oiahe.org.uk/students/.
Os oes angen ein logo arnoch mewn unrhyw fformat arall, e-bostiwch enquiries@oiahe.org.uk.